Modiwl 4: Adeiladau
Amcanion
Bydd disgyblion yn cael y cyfle i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol o gynllunio adeiladau cynaliadwy. Byddant yn asesu ‘ynni ymgorfforedig’ deunyddiau adeiladu cyn defnyddio’r hyn maent wedi ei ddysgu i gynllunio eu hadeiladau cynaliadwy eu hunain. Byddant hefyd yn darganfod fod gennym etifeddiaeth o hen adeiladau aneffeithlon sydd angen eu hadnewyddu.
Gwybodaeth- Mae gan adeiladau ôl troed sylweddol
- Mae hyn o ganlyniad i ynni ymgorfforedig – yr ynni a ddefnyddir i wneud y deunyddiau adeiladu.
- Mae ychydig ohono o ganlyniad i’r ynni mae’r adeilad yn ei ddefnyddio pan fo rhywun yn byw yno.
- Ymhlith y deunyddiau ag ynni ymgorfforedig uchel, mae concrid, dur a briciau.
- Ymhlith y deunyddiau ag ynni ymgorfforedig isel mae coed, gwellt a daear wedi ei gywasgu.
- Gellir cynllunio adeiladau i gasglu ynni gwres am ddim o’r haul heb unrhyw fath o baneli solar. Gelwir hyn yn solar goddefol.
- Mae adeiladau sy’n wynebu’r de yn optimeiddio manteision ynni solar.
- Gellir adnewyddu rhai hen adeiladau aneffeithlon. Mae eraill yn anodd iawn i’w hadnewyddu.
- Arsylwi, tynnu lluniau, recordio ar drip maes
- Siarad a gwrando
- Cynllunio a gwneud modelau
- Gwaith grŵp
Byddem yn eich annog i gasglu adnoddau a deunyddiau ychwanegol i wneud y prosiect yn berthnasol i'ch ysgol. Disgrifir y rhain ymhob gweithgaredd ac fe'u rhestrir yma hefyd:
1. Canlyniadau adeiladu
- Papur a Phensiliau
3. Ymweld â Lleoliad
- Safle i ymweld ag ef. Mae gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen nifer o adeiladau cynaliadwy wedi eu gwneud o wahanol ddeunyddiau (dolen i wefan CAT) ond efallai y byddwch eisiau ymweld â rhywle yn agosach i’r ysgol.
- Os nad ydych yn gallu dod o hyd i unrhyw enghreifftiau o adeiladau cynaliadwy i ymweld â nhw, ceisiwch ddarganfod mwy am adeiladau lle mae arweddion arbed ynni wedi eu hychwanegu, megis deunydd ynysu.
- Hyd yn oed os nad ydych yn gallu dod o hyd i enghreifftiau cynaliadwy positif, bydd yn werth gadael y dosbarth. Archwiliwch adeilad traddodiadol yn defnyddio deunyddiau naturiol – efallai fod gan y deunyddiau hyn ynni ymgorfforedig isel, ond pa mor ynni effeithlon yw’r adeilad pan gaiff ei ddefnyddio? Neu gallwch hyd yn oed archwilio enghreifftiau gwael – bydd disgyblion yn elwa llawer o fedru defnyddio eu gwybodaeth yn y modd hwn.
5. Adeiladwch ef Eich Hun!
- Bocsys cardfwrdd
- Deunyddiau crefft, papur, siswrn, glud ayb
- Plastig clir (ee y ffenestri ar becynnau bwyd wedi eu prosesu, neu hen bocedi plastig clir A4)
Casgliad o gynlluniau paneli ffotofoltaidd, paneli cynhesu dŵr â solar, teils ayb wedi eu hargraffu. (687.54 kB)
6. Cynllunio Cynaliadwy - Adeiladau
- Gallech wahodd y person a gyfwelwyd ar yr ymweliad safle i helpu gyda’r gweithgaredd hwn
- Mapiau a matiau gyda lluniau o’r rhanbarth o’r awyr os oes gennych chi rai
- Amrywiaeth o gyfryngau ar gyfer gwneud cofnodion
Gweithgareddau

Bydd y gêm gyflym hon yn caniatau i ddisgyblion gynllunio eu hadeiladau cynaliadwy eu hunain mewn ffordd hwyliog.
Gweld >>

Dengys y sleidiau hyn y materion sy’n ymwneud â chynaladwyedd mewn llawer o’r adeiladau sydd gennym yn y DU.
Gweld >>

Trip maes i’r holl ddosbarth sy’n caniatau i ddisgyblion archwilio’r hyn maent wedi ei ddysgu â’u llygaid eu hunain.
Gweld >>

Gweithgaredd grŵp ymarferol yw hwn lle gall disgyblion gynllunio a gwneud modelau o’u hadeiladau eco eu hunain allan o focsys.
Gweld >>

Bydd y disgyblion yn defnyddio beth maent wedi ei ddysgu i greu cynllun rhanbarthol cynaliadwy ar gyfer adeiladau.
Gweld >>

Cyfle i ddisgyblion weithio mewn grwpiau neu fel unigolion i gofnodi gweithgareddau’r dydd.
Gweld >>